Noson Gawl lwyddiannus yn Neuadd yr Eglwys Llandudoch - tyrfa dda wedi dod ynghyd. Roedd y cawl, ar ôl gwaith caled Rhin, Llinos a Howard yn paratoi, yn flasus iawn. Diolchodd Geraint James i bawb am eu haelioni yn cyfrannu llysiau, cig a chaws i'r noson - diolch iddo yntau am wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.
Pawb yn bwrw iddi. Angharad yn canu'r delyn tra roedd pawb yn gwledda
Ffion, Sara, Angharad a Marged - y bedair a fu'n ein diddanu yn y Nooson Gawl
Neithiwr, bu grwp bach ohonom yn canu carolau o gwmpas Llandudoch. Cawsom groeso cynnes gan bobol, a chasglu tua 120 o bunnoedd I'r coffrau. Diolch yn arbennig I Kathleen Finlayson am gyfeilio I in ar y ffliwt. Gwych! Gorffennom y noson gyda diod a chlonc yn y Fferi, cyn mynd adre I baratoi at y Nadolig.
Nos Fawrth, Medi 13eg, 2011
Heno, roedd y Cyfarfod Cyffredinol blynyddol - edrychwch ar y cofnodion o dan y dudalen 'Dogfennau' i weld y manylion. Dyma'r gwaith o ddechrau ar y steddfod nesaf felly wedi dechrau, gyda chadeirydd newydd wrth y llyw. Mae Geraint james yn ymddiddori yn y 'Pethe' ac wedi gweithio ar bwyllgorau Eisteddfod Gŵyl fawr Aberteifi ac Eisteddfod Castell Newydd Emlyn - ond mae'n braf ei groesawu adre i landudoch i gymryd at y llyw am y flwyddyn nesaf.
Does dim digwyddiadau pendant i godi arian wedi eu trefnu eto, ond mae'n fwriad gan y pwyllgor i drefnu Noson Garolau o gwmpas y Nadolig - fe gofiwch i'r noson honno gael ei dinistrio gan y tywydd llynedd - ac hefyd i barhau gyda'r Noson gawl ar Fawrth 1af. Mae'n sŵr y bydd nifer o ddigwyddiadau eraill hefyd rhwng nawr a Mis Mai nesaf.
Dydd Iau, Gorffennaf 28in
Wedi'r paratoi a'r becso, bu'n eisteddfod lwyddiannus - cystadlu cyson o safon uchel drwy'r dydd, gyda chystadleuaeth yr her unawd - naw o unawdwyr penigamp - yn rhoi clo bendigedig i'r diwrnod. John Davies, llandybie aeth a hi yn y diwedd, gyda Robert Jenkins, Aberteifi yn ail. Jennifer Parry o Aberhonddu aeth â'r Unawd Gymreig, gyda Robert unwaith eto'n ail.
Aled Evans, Caerfyrddin, gipiodd y gadair am ei gasgliad o gerddi ar y thema 'Brwydr'.
Diolch i bawb a gystadlodd ac a gefnogodd mewn pob ffordd - bydd lluniau, cynnyrch llenyddol a beirniadaethau ar y wefan yn y man - ar ôl i fi ddadflino!
Dydd Mawrth, Mai 3ydd
Cafwyd cyngerdd llwyddiannus Nos Sadwrn, Ebrill 30ain, gyda Chôr Meibion Porth Tywyn, Gwyn Morris, Robert Jenkins ac Angharad Thomas - a heb anghofio'r cyfeilydd, Meirion Wynn Jones - yn diddanu'r gynulleidfa gyda rhaglen amrywiol o gerddoriaeth. Cafwyd eitemau o fyd yr opera, ac o fyd y clasuron Cymreig, ac ambell i ddarn mwy modern hefyd yn eu plith. Oherwydd haelioni'r artistiaid yn rhoi o'u gwasanaeth yn rhad ac am ddim, codwyd arian defnyddiol tuag at gronfa'r eisteddfod - ond yn bwysicach na hynny oedd y pleser a gafodd y gynulleidfa wrth wrando ar berfformwyr o safon.
Dydd Gwener, Ebrill 15fed
Ceri Wyn i lywio'r Talwrn.
Y Prifardd Ceri Wyn Jones fydd yn llywio Talwrn Eisteddfod Llandudoch eleni. Dyma'r ail dro i Ceri ymgymryd â'r dasg hon o bwyso a mesur cynnyrch llenyddol timau o feirdd, tasg mae'n ei chyflawni gyda graen a llwer o hiwmor. Rydym yn edrych ymlaen at noson ddifyr - gobeithio y daw llu o bobl ynghyd i Ysgol Gynradd Llandudoch i fwynhau gyda ni.
Dydd Llun, Mawrth 28ain, 2011
Mae Geraint Jones a'i deulu, Pontglasier wedi rhoi rhodd ariannol o £500 i Eisteddfod Llandudoch er cof am Halket ac Eurwen Jones, rhieni Geraint. Bu Eurwen yn aelod o bwyllgor yr Eisteddfod am flynyddoedd, ac roedd Halket yn ffigwr amlwg iawn ym mywyd y pentref, yn gyntaf fel plismon, ac yn ddiweddarach fel Cynghorydd Dosbarth a Sir.
Rydym fel pwyllgor yn gwerthfawrogi'r rhodd yn fawr iawn, ac yn mynd i'w wario mewn ffordd fydd yn sicrhau y cof am Halket ac Eurwen am flynyddoedd i ddod.
Dydd Iau, Mawrth 10fed, 2011

Mae'r trefniadau ar gyfer y Cyngerdd gyda Chôr Meibion Porth Tywyn, Robert Jenkins, Gwyn Morris ac Angharad Thomas yn Neuadd Llandudoch - yn dechrau dod i fwcwl. Cadwch lygad mas am y posteri a'r tocynnau.

Ry'n ni i gyd yn gwybod am ddoniau Gwyn Morris, Robert Jenkins ac Angharad Thomas, gan ei bod yn adnabyddus iawn yn yr ardal hon - cantorion da, a phob un ohonynt wedi cystadlu ac ennill yn Eisteddfod Llandudoch yn y gorffennol, ond sydd hefyd yn gyfarwydd iawn ar lwyfannau cenedlaethol.
Dw i wedi bod ar wefan Côr Meibion Porth Tywyn (cliciwch yma) ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn edrych ymlaen at eu clywed nhw - mae llawer o ganmoliaeth i'w perfformiadau, ac mae'r clipiau ar y wefan yn swnio'n ardderchog.
Gobeithio y bydd tyrfa dda yno ar gyfer noswaith sy'n addo bod yn gyngerdd i'w gofio.
Ebrill 30ain, 7 p.m. Pris mynediad : £7.50; Plant dan 12 : £5.00
Mercher, Mawrth 2il, 2011
Bu'r Noson Gawl neithiwr yn y neuadd yn dipyn o lwyddiant. Daeth tyrfa o ryw 75 ynghyd i fwynhau basned (neu fwy) o gawl, disgled a phice bach cyn i rai ohonom fentro allan i'r llawr i wneud ychydig o ddawnsio gwerin. Daeth y noson i ben gyda'n is-gadeirydd, Geraint James yr ocsiwniar, yn gwerthu llysiau, pice bach a chaws oedd dros ben. Roedd pawb wedi mwynhau ei 'berfformiad' fel arwerthwr, a llwyddodd i werthu popeth, ac ychwanegu swm defnyddiol at elw'r noson.
Diolch i bawb a fu wrthi'n trefnu, paratoi a chynorthwyo ym mhob ffordd.
Dydd Llun, Chwefror 28ain, 2011
Mae'r rhaglen bellach wedi dod o'r wasg ar gyfer eisteddfod 2011. Fel arfer, mae cystadlaethau llwyfan a chartref ar gaeli bob oed - os ydych chi eisiau copi o'r rhaglen, holwch un o aelodau'r pwyllgor neu chwiliwch amdani yn y Siopau Cymraeg a lleol, ac yn llyfrgell Aberteifi. Cofiwch hefyd ei bod ar gael ar y wefan hon, ac ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.
Mae'r ymgyrch yn mynd yn ei blaen i chwilio noddwyr i'r eisteddfod. Ein noddwyr sy'n cadw'r eisteddfod i fynd. Heb eu cefnogaeth ni fyddai'n bosibl cynnal yr eisteddfod o gwbl, felly mae ein gwerthfawrogiad yn fawr ac yn ddidwyll. Os hoffech chi fod yn noddwr - ac rydym yn croesawu pob cyfraniad, mawr neu fach - yna cysylltwch â'n trysorydd, Geraint Volk (01239 612928) neu unrhyw aelod o'r pwyllgor. Bydd pob noddwr yn caelei gydnabod o lwyfan yr eisteddfod ac yn cael ei restru yn y rhaglen y flwyddyn nesaf.
Chwefror 2il, 2011

Bu'r noson indiaidd ym mwyty Abdul's yn llwyddiannus iawn, gyda 56 o bobl yn dod ynghyd i fwynhau Cyrri blasus. Yn ogystal â'r bwyd, cafwyd cystadleuaeth wedi ei threfnu gan Llinos i adnabod 24 o gerfluniau o wahanol rannau o Gymru - anodd iawn, gyda'r tîm buddugol yn ennill gyda 14 o bwyntiau!
Yn ystod y noson, cawsom gyfle i ddiolch i Eifion Davies am ei waith fel trysorydd yr eisteddfod ers 12 mlynedd, ac i ddymuno'n dda iddo ef a'i chwaer, Rhiannon, wrth iddynt symud o Landudoch i ardal Aberystwyth. Bu Rhiannon yn un o arweiynddion yr eisteddfod yn ystod y blynyddoedd diweddaraf hyn. Derbyniodd y ddau anrhegion fel arwydd o werthfawrogiad y pwyllgor.

Rhagfyr 1af, 2010
Beirniaid Llên ac adrodd
Mae gweddill beirniad Eisteddfod 2011 bellach wedi eu trefnu.
Y beirniad cerdd fydd Lowri Evans, Caerdydd. Mae Lowri'n bennaeth cerdd yn Ysgol Glantaf Caerdydd, ac mae ganddi gysylltiad a Llandudoch. Ei thadcu oedd y Parch. W.H.Rowlands, a fu'n weinidog ar Gapel Blaenwaun, Llandudoch am gyfnod yn y saithdegau.
Y beirniad adrodd fydd Rhian Evans, o'r Tymbl. Mae Rhian yn athrawes yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli, ac wedi hen arfer a throedio llwyfannau eisteddfodau.
Nia James, Aberteifi fydd yn beirniadu llên y plant. Mae Nia'n athrawes fro yng Ngheredigion, a bu gynt yn athrawes yn Ysgol Cenarth. mae'n aelod o'r grŵp lleol amlwg, y Rhocesi.
Y cyfeilydd fel arfer fydd Wyn Hyland, gynt o Aberteifi, ond bellach yn gerddor proffesiynol yn Llundain.
Edrychwn ymlaen at groesawu pob un ohonynt i Landudoch ym Mis Mai.
Tachwedd 8fed, 2010

Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008y Dr Hywel Griffiths, yw beirniad llên eisteddfod Llandudoch 2011 . Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn yn 2004, ac eto yn Sir Gâr yn 2007. Bu’n aelod o dîm talwrn y Glêr ac aelod o dîm ymryson beirdd Y Deheubarth ac yn rhan o’r daith Crap ar Farddoni a deithiodd drwy Gymru’r llynedd.
Cafodd ei fagu ger pentref Llangynog, Caefyrddin. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llangynog ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin pan ddysgodd y cynganeddion yng nghwmni Eurig Salisbury. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth mewn Daearyddiaeth a Mathemateg a bellach wedi derbyn gradd doethuri mewn daearyddiaeth ffisegol ac yn darlithio drwy’r Gymraeg yn y brifysgol.
Bu ei gyfrol Banerog (Y Lolfa, 2009), ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2010.
Hydref 22ain, 2010
Mae'r llywydd ar gyfer eisteddfod 2010 wedi cadarnhau y bydd yn dod i'r eisteddfod. Mae Stephen Davies yn enedigol o Landudoch, a threuliodd holl flynyddoedd ei blentynod yma, nes gadael i fynd i'r coleg. Ei gartref diwethaf yn y pentref oedd Haulfan, Ffordd y Cwm lle roedd yn byw gyda'r dad a'i fam, Haydn ac Eira Davies.
Wedi gyrfa ym myd addysg, mae Stephen bellach yn Arolygydd Addysg gydag Estyn ac yn byw yng Nghilycoed (Caldicot) ger Casnewydd. Mae ganddlo lu o atgofion am gyfnod ei ieuenctid yn Llandudoch, ac edrychwn ymlaen at ei groesawu adref ar ddiwrnod yr eisteddfod.
Nos Lun, Hydref 11eg
Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y pwyllgor eisteddfod heno, ac fe ffurfiwyd pwyllgor newydd, sydd a chryn nifer yn fwy o aelodau arno na chynt. Y swyddogion abenodwyd am 2010/2011 yw :
Cadeirydd : Terwyn Tomos; Is-gadeirydd : Geraint James; Ysgrifenyddion : Llinos Devonald a Melrose Thomas; Trysorydd : Geraint Volk; Trefnyddion y bwyd: Marged Tomos, Mair Volk, Siân James; Trefnydd stiwardio : Mike James
Penderfynwyd bwrw ymlaen â threfniadau'r eisteddfod flwyddyn nesaf, i ddigwydd ar Mai 21ain.
Cyfrafod nesaf - i drafod, ymhlith pethau eraill, dulliau o godi arian ar gyfer eisteddfod 2011 - i'w gynnal ar Tachwedd 8fed.